2013 Rhif 3048 (Cy. 309)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1079/2013 sy’n gosod mesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor (“Rheoliad y Comisiwn”). Maent hefyd yn gweithredu Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 702/2013 ar fesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran achredu labordai swyddogol sy’n cynnal profion swyddogol ar gyfer Trichinella (“Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn”). Yn ogystal maent yn cywiro mân wall yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn drwy ddiwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 i estyn mesurau trosiannol hyd 31 Rhagfyr 2016, drwy hepgor y diffiniad o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1162/2009 (“Rheoliad 1162/2009”), sy’n cael ei ddiddymu, a’r cyfeiriadau ato, a mewnosod cyfeiriadau at Reoliad y Comisiwn a Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (rheoliad 2).

Mae’r Rheoliadau yn gweithredu Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn drwy ddiwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 i estyn mesurau trosiannol hyd 31 Rhagfyr 2016, drwy hepgor y diffiniad o Reoliad 1162/2009 a’r cyfeiriadau ato, a mewnosod cyfeiriadau at Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (rheoliad 3).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiad i Atodlen 2 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013 (rheoliad 4) ac i adran 9(5)(a) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 er mwyn cywiro cyfeiriad gwallus at rif paragraff (rheoliad 5).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 


2013 Rhif 3048 (Cy. 309)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2013

Gwnaed                                 3 Rhagfyr 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       5 Rhagfyr 2013

Yn dod i rym                           1 Ionawr 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([1]) (“Deddf 1972”) ac, at y diben o wneud rheoliad 4 o’r Rheoliadau, adrannau 27(2) a (5), 30(9) a 31(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990([2]).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd([3]).

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([4]).

Enwi, rhychwantu a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2013.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ionawr 2014.

Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru 2006([5]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad (2)(1) (dehongli)—

(a)     hepgorer ““Rheoliad 1162/2009” (“Regulation 1162/2009”)”; a

(b)     yn lle “a “Rheoliad 28/2012” (“Regulation 28/2012”)” rhodder “, “Rheoliad 28/2012” (“Regulation 28/2012”), “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”) a “Rheoliad 1079/2013” (“Regulation 1079/2013”)”.

(3) yn Atodlen 1 (Diffiniadau o Ddeddfwriaeth UE)—

(a)     hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 1162/2009”;

(b)     yn y diffiniad o “Rheoliad 853/2004” yn lle ““Rheoliad 1162/2009”” rhodder ““Rheoliad 1079/2013””;

(c)     yn y diffiniad o “Rheoliad 854/2004” yn lle ““Rheoliad 1162/2009”” rhodder ““Rheoliad 1079/2013””;

(d)     yn y diffiniad o “Rheoliad 882/2004” yn lle ““Rheoliad 1162/2009”” rhodder ““Rheoliad 702/2013””;

(e)     ar y diwedd, mewnosoder—

“ystyr “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 702/2013 ar fesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran achredu labordai swyddogol sy’n cynnal profion swyddogol ar gyfer Trichinella([6]);

ystyr “Rheoliad 1079/2013” (“Regulation 1079/2013”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1079/2013 sy’n gosod mesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor([7]).”.

Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

3.(1)(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009([8]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn lle “Rheoliad 1162/2009” rhodder “Rheoliad 702/2013”.

(3) Yn Atodlen 1 (Diffiniadau o Ddeddfwriaeth yr UE)—

(a)     hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 1162/2009”;

(b)     yn y diffiniad o “Rheoliad 853/2004” yn lle ““Rheoliad 1162/2009” rhodder ““Rheoliad 1079/2013””;

(c)     yn y diffiniad o “Rheoliad 882/2004” yn lle ““Rheoliad 1162/2009”” rhodder ““Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”)”;

(d)     ar y diwedd, mewnosoder—

“ystyr “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 702/2013 ar fesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran achredu labordai swyddogol sy’n cynnal profion swyddogol ar gyfer Trichinella.”

Diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013

4.(1)(1) Mae Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 5 hepgorer “ynghyd ag aelodaeth o’i Grŵp Proffesiynol Microbioleg Bwyd”.

Diwygio Deddf Diogelwch Bwyd 1990

5. Yn adran 9(5)(a) o Ddeddf Diogelu Bwyd 1990 (arolygu bwyd amheus ac ymafael ynddo), yn lle “4(a)” rhodder “4(b)”.

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

3 Rhagfyr 2013



([1])           1972 p.68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1) o Deddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51) a Rhan 1 o'r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7). 

([2])           1990 p.16, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/3279.Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan y Ddeddf honno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, ac wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

([3])           O.S. 2005/1971. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru wedi hynny gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

([4])           OJ L 31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol ynghyd â  chraffu – Rhan Pedwar  (OJ L 188, 18.7.2009, t.14).         

([5])           O.S. 2006/31 (Cy.5) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2012/1765.  Mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

([6])           OJ Rhif L 199, 24.7.2013, t.3.

([7])           OJ Rhif L 292, 1.11.2013, t.10.

([8])           O.S. 2009/3376 (Cy.298), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2011/626 (Cy.90).